Atodiad B

 

RHESTR TERMAU

 

Prentisiaeth – rhaglen ddysgu seiliedig ar gyflogaeth ar gyfer dysgwyr cyflogedig sy’n dilyn fframwaith prentisiaeth cydnabyddedig ar lefel 3 sydd wedi’i gymeradwyo i’w gyflwyno yng Nghymru.

 

Fframweithiau Prentisiaethau i Gymru – y fframweithiau sy’n cydymffurfio â Phennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW) ac sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Awdurdodau Cyhoeddi a benodwyd ar gyfer y sector gan Weinidogion Cymru.

 

Gwasanaeth Paru Prentisiaethau – gwasanaeth paru ar-lein i helpu cyflogwyr i ddod o hyd i Brentisiaid addas, a darpar Brentisiaid i ddod o hyd i gyflogwyr.

 

Dysgu hyblyg – y cyfle i gyflogeion 19 oed a throsodd astudio ar gyfer cymhwyster cymhwysedd galwedigaethol, cymhwyster gwybodaeth dechnegol neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru o’r tu mewn i fframwaith Prentisiaeth Sylfaenol, Prentisiaeth, neu Brentisiaeth Uwch penodol. Rhaid anelu at gymhwyster cyfan – hy, nid unedau na chredydau tuag at gymhwyster. Nid yw’n ofynnol cwblhau fframwaith llawn.

 

Prentisiaethau Sylfaenol – rhaglen ddysgu seiliedig ar gyflogaeth ar gyfer dysgwyr cyflogedig sy’n dilyn fframwaith prentisiaeth cydnabyddedig ar gyfer Cymru ar lefel 2.

 

Sgiliau Allweddol / Cymwysterau Sgiliau Allweddol – y sgiliau sydd eu hangen fwyaf i lwyddo mewn ystod o weithgareddau – yn y gwaith, mewn addysg a hyfforddiant ac yn ein bywydau pob dydd. Fe’u ceir mewn chwe maes sgiliau:

- Cyfathrebu

- Cymhwyso Rhif

- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

 

(Cyfeirir atynt yn aml fel y tri ‘cyntaf/pwysicaf’ ac maent wedi’u disodli gan Sgiliau Hanfodol Cymru yn yr un meysydd sgiliau er 1 Medi 2010.)

a:

- Gweithio gydag Eraill

- Gwella’ch Dysgu a’ch Perfformiad eich Hun

- Datrys Problemau

y cyfeirir atynt fel arfer fel y Sgiliau Allweddol Ehangach. Mae’r rhain yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd ac mae’r safonau a’r cymwysterau newydd i fod i ddod yn rhan o Sgiliau Hanfodol Cymru o 1 Medi 2012.

 

Llwybrau at Brentisiaethau – rhaglen o astudio llawnamser mewn sefydliad addysg bellach yn unol â gofynion y Cynghorau Sgiliau Sector i baratoi ar gyfer prentisiaeth.

 

Cynghorau Sgiliau Sector (CSS) – cyrff sy’n cael eu noddi gan y wladwriaeth a’u harwain gan gyflogwyr ac sy’n ymdrin â sectorau economaidd penodol yn y Deyrnas Unedig. Trwyddedir y Cynghorau gan y Llywodraeth drwy Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau (UKCES).

 

Rhannu Prentisiaeth – mae Rhannu Prentisiaeth yn golygu bod dysgwyr yn ‘cylchdroi’ rhwng dau neu fwy o gyflogwyr er mwyn cwblhau’r fframwaith Prentisiaeth. Gall prentisiaid fod â chontract cyflogi ag un o’r cyflogwyr, neu fod wedi’u cyflogi gan y darparwr hyfforddiant mewn model ‘corff sy’n cyflogi’ neu ‘gymdeithas hyfforddiant grŵp’.

 

Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru (SASW) – mae’n nodi lleiafswm y gofynion i’w bodloni gan fframweithiau prentisiaethau cydnabyddedig yng Nghymru.

 

Recriwtiaid Newydd – mae’r Rhaglen Recriwtiaid Newydd yn rhaglen Gymru gyfan sy’n rhoi cymorth ariannol i gyflogwyr sy’n cynnig recriwtio a hyfforddi prentisiaid ifanc ychwanegol (16-24 oed). Mae’r rhaglen yn cynnig cymhorthdal cyflog o £50 yr wythnos sy’n cael ei dalu i’r cyflogwr os bydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a’r gofynion tystiolaethol (nid yw hyn yn berthnasol i’r Sector Cyhoeddus).